Agweddau dysgu emosiynol a chymdeithasol SEAL
Mae gan Ysgol y Model ethos gadarn Gristnogol, mae’r plant yn cael eu hannog i ddatblygu gwerthoedd megis, dewrder; parch, dyfalbarhad, cyfeillgarwch, maddeuant, cyfrifoldeb a diolchgarwch.
Dysgwyd y gwerthoedd hyn drwy storiau Iesu. Cafwyd y plant gyfleoedd i feddwl a gweithredu eu gwerthoedd Cristnogol drwy y cwricwlwm, gwersi penodol Addysg Grefyddol a sesiynau addoli ar y cyd.
Yn ogystal, dilynwyd fframwaith SEAL, sy’n cynnig cyfleoedd i gefnogi’r plant a^’u sgiliau llythrennedd emosiynol, maent yn cefnogi’r plant i feddwl am eu:
- Ymwybyddiaeth gymdeithasol
- Deall eu teimladau
- Ysbrydoliaeth
- Empathi
- Rhyngweithiau cymdeithasol
Rhannwyd y themau dros y flwyddyn:
Hydref:
- Dechrau o’r newydd
- Cwympo mas a bod yn ffrindiau
- Dweud na i fwlio
Gwanwyn
- Taro ein targedau
- Hapus bod yn fi fy hun
Haf
- Perthnasoedd
- Newidiadau
Defnyddiwyd y rhaglen fel adnodd ysgol gyfansy’n anelu at helpu’r plant ffynnu i fod yn ddysgwyr cyfrifol ac unigolion hyderus. Defnyddiwyd dau hysbysfwrdd i arddangos gwaith y plant yn ymwneud a^’r gystadleuaeth y thema.